P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Clays, ar ôl casglu cyfanswm o 112 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn dilyn y ffilmiau brawychus o ffermydd cŵn bach yng Nghymru, mae angen i ni weld gwell gorfodaeth o drwyddedu ffermydd cŵn bach gan gynghorau lleol yng Nghymru.
Argymhellion:
Cau ffermydd cŵn bach sydd ddim yn bodloni'r meini prawf gofynnol
Erlyn ffermydd cŵn bach sy'n rhoi lles anifeiliaid mewn perygl
Gwell tryloywder o ymweliadau wedi'u rheoleiddio – dylai fod cofnodion cyhoeddus fel y rhai a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar sgoriau hylendid bwytai. Dylai'r cyhoedd allu adolygu'r cofnodion arolygu.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Alun a Glannau Dyfrdwy
· Gogledd Cymru